7. Bod yn agored ac yn atebol
Ddim yn siŵr beth sy’n berthnasol i’ch elusen? Darllenwch Defnyddio’r Egwyddorion
Disgrifiad
Mae gwerth bod yn agored ac yn atebol o ran buddsoddiadau’r elusen yn cael ei ddeall ac yn cael ei weithredu.
Rhesymeg
Mae pob elusen yn cyflawni ei dibenion er budd y cyhoedd, ac mae bod yn agored ac yn atebol yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn yr elusen. Gan fod buddsoddiadau elusen yn rhan annatod o’i gweithrediadau, mae bod yn agored ac yn atebol am y buddsoddiadau yn elfen allweddol o feithrin ymddiriedaeth a hyder.
Canlyniadau allweddol
- Mae gan y bwrdd ddealltwriaeth ar y cyd o sut bydd cynnwys gwybodaeth am bolisi a dull buddsoddi’r elusen yn ei adroddiad blynyddol ac ar wefan yr elusen yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder.
- Mae ymddiriedolwyr/staff yn ystyried sut gallai buddsoddiadau’r elusen gael eu hystyried gan y bobl a’r mudiadau sy’n ymwneud â’i gwaith a gan y cyhoedd yn gyffredinol, a sut dylid rheoli unrhyw risgiau cysylltiedig i enw da.
Ymarfer
Bod yn agored ac yn atebol
Cyhoeddi gwybodaeth am fuddsoddiadau
Mae adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys esboniad o’r canlynol:
- sut mae buddsoddiadau’r elusen wedi perfformio yn ystod y flwyddyn
- beth yw polisi buddsoddi’r elusen, gan gynnwys unrhyw nodau anariannol sydd gennych ar gyfer buddsoddiadau eich elusen
Nid oes angen i elusennau llai nac elusennau â llai o fuddsoddiadau neu fuddsoddiadau llai cymhleth gynnwys gwybodaeth fanwl.
I elusennau llai sydd ag arian mewn cyfrif banc, gallai adrodd ar sut mae buddsoddiadau’r elusen wedi perfformio gynnwys datganiad i ddweud bod gan yr elusen arian mewn cyfrif banc a derbyniwyd X% o log. Gall adrodd ar beth yw bolisi buddsoddi’r elusen gynnwys crynodeb byr o’r polisi (gweler elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf). Gallai nodau anariannol gynnwys dulliau o osgoi gwrthdaro â dibenion yr elusen risgiau i’w henw da neu fuddsoddiadau cymdeithasol.
Byddai’r Comisiwn Elusennau a Datganiad yr Elusen o'r Arfer a Argymhellir yn disgwyl i elusennau â phortffolios buddsoddi mwy o faint gynnwys gwybodaeth fanylach yn yr adroddiad blynyddol.
Yn ogystal ag unrhyw ofynion dan y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP) ar gyfer Elusennau a chanllawiau adrodd a chyfrifyddu’r, Comisiwn Elusennau, mae’r wybodaeth ganlynol ar gael drwy gyhoeddi polisi buddsoddi’r elusen ar ei gwefan a rhannau o’r polisi buddsoddi yn adroddiad blynyddol yr elusen:
- pam mae’r elusen yn dal buddsoddiadau a sut mae’r buddsoddiadau hynny’n cefnogi ac yn hyrwyddo ei dibenion
- sut mae’r elusen yn mynd i’r afael ag unrhyw wrthdaro â’i dibenion ac unrhyw risgiau i enw da o ran ei buddsoddiada
- strwythur llywodraethu sy’n ymwneud â buddsoddiadau, a sut mae ymddiriedolwyr / aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau yn cael eu recriwtio
- y prif ddarparwyr proffesiynol allanol a ddefnyddir gan yr elusen ar gyfer ei buddsoddiadau (e.e. banc, rheolwr buddsoddi, cynghorydd buddsoddi)
- dull yr elusen o ymdrin â buddsoddiadau cymdeithasol (os oes rhai’n cael eu gwneud)
Pan na fydd y polisi buddsoddi llawn wedi’i gyhoeddi ar wefan yr elusen, dylai, ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor edrych ar y rhesymau dros hyn a phennu ffyrdd eraill o gyflwyno’r wybodaeth, er enghraifft, drwy gyhoeddi polisi buddsoddi symlach.
Dylai gwybodaeth a gyhoeddir gan yr elusen am ei buddsoddiadau gael ei darparu mewn modd sy’n hygyrch i randdeiliaid yr elusen lle’n bosibl.
Mae Datganiad Ymarfer Cymeradwy Elusennau (SORP) yn nodi sut dylai elusennau baratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU. Nid yw’r Egwyddorion yn ceisio nodi’r holl ofynion yn y SORP a dylai ymddiriedolwyr/staff elusennau ddefnyddio’r SORP wrth baratoi cyfrifon.
I rai elusennau, gall y polisi buddsoddi gynnwys manylion manwl nad ydynt ar gael i’r rhan fwyaf o randdeiliaid ac ni fyddai eu cyhoeddi yn helpu i fod yn fwy tryloyw ac atebol. Yn yr achosion hyn, gallai elusennau gynhyrchu fersiwn o’r polisi buddsoddi sydd ar gael i randdeiliaid. Dylai elusennau yn y sefyllfa hon hefyd ystyried a oes gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth lawn o’r polisi buddsoddi.

Mae’r meini prawf ar gyfer Sgorio Arferion Sefydliadau yn cynnwys cyhoeddi’r polisi buddsoddi. Nod Sgorio Arferion Sefydliadau yw gwella Amrywiaeth, Atebolrwydd a Thryloywder y sefydliadau.
Dylai elusennau ystyried pa randdeiliaid, er enghraifft, rhoddwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau, a allai fod eisiau gweld gwybodaeth am fuddsoddiadau’r elusen a sicrhau ei bod yn hygyrch i’r cynulleidfaoedd hynny.
Mae modd dod o hyd i adroddiad blynyddol a chyfrifon yr elusen yn rhwydd ar wefan yr elusen.
Rhaid i elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru neu Loegr anfon ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau neu adrodd ar eu hincwm a’u gwariant bob blwyddyn. Bydd yr hyn y mae angen i elusennau adrodd arno yn dibynnu ar eu maint. Rhaid i elusennau mwy o faint gwblhau archwiliad llawn.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio’r cysyniad o gyhoeddi gwybodaeth fanylach am y portffolio buddsoddi fel rhan o ymrwymiad i fod yn agored.
Mae elusennau’n archwilio amrywiaeth o ddulliau i fod yn fwy agored ynghylch eu buddsoddiadau, gan gynnwys:
- cyhoeddi rhestr lawn o’r holl fuddsoddiadau sylfaenol a ddelir gan yr elusen (fel arfer gydag oedi er mwyn osgoi sensitifrwydd masnachol)
- cyhoeddi cofnodion pleidleisio sy’n ymwneud â’r buddsoddiadau gwahanol y mae’r elusen yn berchen arnynt
Cyhoeddi buddsoddiadau sylfaenol:
- Prifysgol Bryste - cliciwch ar Portfolio Investment Report
- Access - Y Sefydliad Buddsoddi Cymdeithasol - Access Impact Report for Access’s Endowment
Cyhoeddi cofnod pleidleisio:
- Sefydliad Friends Provident - Adroddiad Blynyddol 2022 - gweithgarwch ymgysylltu â chyfranddalwyr
Gwybodaeth gyhoeddi am y dull buddsoddi a’r darparwyr proffesiynol a ddefnyddiwyd (e.e. cynghorwyr buddsoddi neu reolwyr buddsoddi):
Gwybodaeth gyhoeddi am fuddsoddiadau cymdeithasol ac effaith:
- Barking & Dagenham Giving Community Steering Group and Investment Policy
Rhannu â chyfoedion
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio cyfleoedd i rannu a dysgu am fuddsoddiadau gyda mudiadau eraill yn y sector elusennol a’r rhai sy’n dilyn dull buddsoddi sy’n seiliedig ar bwrpas.
Mae amrywiaeth o rwydweithiau’n darparu cymorth i elusennau ar fuddsoddiadau, gan gynnwys:
Cyfathrebu â rhanddeiliaid
Mae eglurder ynghylch pwy yw rhanddeiliaid allweddol yr elusen, a chynllun ar gyfer cyfathrebu â nhw am fuddsoddiadau’r elusen, gan gynnwys prosesau a llwybrau y cytunwyd arnynt lle bo angen.
Gallai rhanddeiliaid gynnwys derbynwyr grant, defnyddwyr gwasanaeth, rhoddwyr, staff, gwirfoddolwyr, aelodau.
Gallai cyfathrebu â rhanddeiliaid fod ar ffurf:
- cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn sesiwn holi ac ateb gyda rhanddeiliaid.
- cyhoeddi (a chyfeirio at) wybodaeth am fuddsoddiadau'r elusen
Efallai y bydd angen i’r gwaith o baratoi ar gyfer cyfathrebu fod yn rhagweithiol (er enghraifft, rhoi’r diweddaraf i randdeiliaid) ac yn adweithiol (er enghraifft paratoi ar gyfer cwestiynau am ddull buddsoddi’r elusen neu fuddsoddiadau penodol sy’n peri risg i enw da).
Ar gyfer rhai elusennau, er enghraifft prifysgolion neu elusennau adnabyddus, bydd angen prosesau a llwybrau i sicrhau bod staff yn agored ac yn atebol heb roi gormod o faich arnynt.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - cliciwch ar y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol