diamond icon

5. Effeithiolrwydd

question mark icon
Eisiau gwirio trefniadau llywodraethu buddsoddiadau eich elusen? Gweler yr Adnodd Hunanasesu
Ddim yn siŵr beth sy’n berthnasol i’ch elusen? Darllenwch Defnyddio’r Egwyddorion

Disgrifiad

Mae’r bwrdd yn hyderus bod gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n darparu goruchwyliaeth ddirprwyedig dros fuddsoddiadau y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth angenrheidiol. Mae’r bwrdd, gyda chefnogaeth staff/aelodau pwyllgor, yn sicrhau bod prosesau ar waith i oruchwylio buddsoddiadau’n effeithiol.

Rhesymeg

Ystyrir goruchwyliaeth effeithiol yn ei hystyr ehangaf – o ffactorau ariannol i ystyried sut mae buddsoddiadau’n hyrwyddo dibenion yr elusen i asesu a rheoli gwrthdaro â dibenion a risgiau i enw da. Er mai dim ond lleiafrif o ymddiriedolwyr elusennau a all fod ag arbenigedd yn y meysydd hyn, mae’n bwysig bod gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ddigonol o fuddsoddiadau’r elusen i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys bod yn hyderus bod gan yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau y cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad a gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd perthynas waith effeithiol rhwng ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig a gyda’r bwrdd ymddiriedolwyr ehangach yn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn fwy llwyddiannus.

Canlyniadau allweddol

  • Mae gan yr elusen ddealltwriaeth o gyllid a buddsoddiadau ymysg ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor, sy’n gymesur â maint a chymhlethdod y buddsoddiadau sydd ganddi.
  • Caiff ymddiriedolwyr eu grymuso i deimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau am fuddsoddiadau’r elusen i gyd-ymddiriedolwyr, staff ac aelodau’r pwyllgor, ac mae cyfleoedd dysgu’n cael eu darparu neu maen nhw’n cyfeirio at gyfleoedd o’r fath.
  • Mae gan y bwrdd berthynas waith effeithiol gydag unrhyw ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor sy’n gyfrifol am gyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig.
  • Mae digon o amser ac ystyriaeth yn cael eu rhoi i fuddsoddiadau mewn perthynas ag agweddau eraill ar waith yr elusen, gan gynnwys mewn cyfarfodydd ymddiriedolwyr.
  • Gall ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor sy’n ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio buddsoddiadau gynnig her adeiladol mewn diwylliant lle mae gwahaniaethau a heriau’n cael eu rhannu a’u datrys.
  • Mae deinameg pŵer o fewn y bwrdd neu’r pwyllgor yn cael ei gydnabod ac mae camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod trafodaethau ynghylch buddsoddiadau’r elusen yn gynhwysol.

Ymarfer

Dangos:
tick icon
Gorfodol
tick icon
Gorfodol, Argymell & Ystyried

Effeithiolrwydd

Dangos:
tick icon
Gorfodol
tick icon
Gorfodol, Argymell & Ystyried

Effeithiolrwydd

Mae proses dryloyw i benodi’r ymddiriedolwyr, y staff a’r aelodau pwyllgor hynny a fydd yn gyfrifol am oruchwylio buddsoddiadau, gan ofyn am gymorth annibynnol yn ystod y broses recriwtio os bydd angen. Mae hyn yn cynnwys archwiliad sgiliau, manyleb rôl, hysbysebu swyddi gwag a phenodi ar sail meini prawf gwrthrychol. Rhoddir ystyriaeth i sut mae sicrhau bod y rhai sy’n cael eu recriwtio yn gallu cyflwyno neu gynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau yn unigol ac ar y cyd, a’u bod yn gallu mynegi’r berthynas rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau yn ei hystyr ehangaf.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - recriwtio

Er bod recriwtio unigolion i oruchwylio yn rhinwedd rôl ymddiriedolwr neu bwyllgor yn gallu bod yn heriol, gall dibynnu ar rwydweithiau personol arwain at risg o feddylfryd grŵp o fewn y mudiad. Bydd proses recriwtio dryloyw a chyhoeddus yn cyflwyno dysgu ar gyfer y mudiad, safbwyntiau newydd, ac yn ddelfrydol, gronfa ehangach o ddarpar ymgeiswyr.

question mark icon
Rhestr wirio - recriwtio unigolion i oruchwylio buddsoddiadau
  • a oes gan yr unigolyn arbenigedd perthnasol – er enghraifft, efallai fod ganddo brofiad o systemau rheoli ariannol mudiad neu reoli buddsoddiadau, cymhwyster proffesiynol mewn cyfrifyddu, cyllid neu reoli buddsoddiadau, neu arbenigedd yng nghyswllt dibenion yr elusen y mae modd ei ddefnyddio i sicrhau bod y buddsoddiadau’n hyrwyddo’r dibenion?
  • sut bydd dibenion yr elusen yn cael eu cadw ar flaen y gad, er enghraifft a oes gan unigolyn ar y pwyllgor arbenigedd yn nibenion yr elusen neu a fydd cydweithio rhwng y pwyllgor a’r bwrdd ymddiriedolwyr ehangach a staff ynghylch dibenion yr elusen?
  • a oes gan yr unigolyn brofiad cyfredol o reoli cyllid neu fuddsoddi? Os nad yw’r profiad yn gyfredol, sut mae’r unigolyn wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes rheoli buddsoddiadau fel ESG neu fuddsoddi cyfrifol?
  • a oes gan yr unigolyn arbenigedd neu brofiad sy’n gysylltiedig â dibenion yr elusen, er enghraifft drwy brofiad bywyd neu brofiad wedi'i ddysgu?  
  • a yw’r unigolyn yn gofyn am ad-daliad am dreuliau neu golli enillion? A yw cyfyngu’r rôl i wirfoddolwyr yn unig yn cyfyngu ar gyfranogiad pobl o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli?    

Gall cysgodi bwrdd fod yn ffordd ddefnyddiol o gyflwyno unigolion o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli i gyfranogiad ymddiriedolwyr. Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Smallwood raglen a oedd yn canolbwyntio ar fenywod â phrofiad bywyd o dlodi ar sail rhywedd a/neu o weithio ar lawr gwlad yn y gymuned. Nod y rhaglen yw egluro’n well beth yw rolau ymddiriedolwyr a byrddau, yn enwedig mewn mudiadau sy’n cyllido ac yn dyfarnu grantiau. Mae rhaglen.’ Sefydliad John Ellerman n gwahodd unigolion i gysgodi’r Pwyllgor Cyllid a Buddsoddi, ac yn darparu cyllideb hyfforddi ac ad-daliad am dreuliau.

outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth

Mae gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig gyfleoedd i gael mynediad at ddysgu ar gyfer eu rôl, er enghraifft:

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - dysgu

Gall y dysgu fod yn ffurfiol (e.e. cwrs hyfforddi) neu’n anffurfiol (e.e. trafodaethau gyda grŵp ehangach o ymddiriedolwyr a staff sydd ag arbenigedd yn nibenion neu fuddsoddiadau’r elusen). Gall dysgu hefyd gynnwys hyfforddiant EDI i sicrhau bod y rheini sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig yn deall sut mae EDI yn berthnasol i fuddsoddiadau.

Mae trafodaethau buddsoddi yn cael eu hamserlennu mewn cyfarfodydd bwrdd mewn ffordd sy’n gymesur â lefel y buddsoddiadau a ddelir ac mewn perthynas â meysydd eraill o waith yr elusen, er enghraifft dyfarnu grantiau, codi arian neu gynllunio gweithredol.  Rhoddir amser i ymddiriedolwyr baratoi, gan gynnwys cyfleoedd i fynd drwy eitemau sy’n ymwneud â buddsoddi ymlaen llaw gydag ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor mwy profiadol, i sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau am fuddsoddiadau’r elusen. Mae penderfyniadau’n cael eu codnodi ac mae penderfyniadau dirprwyedig yn cael eu cadarnhau gan y bwrdd.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - trafodaethau buddsoddi

I gael rhagor o wybodaeth am sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, cymerwch gip ar Egwyddor 6 - Cynhwysiant.

Mae gan y bwrdd gyfle i gwrdd ag unrhyw staff neu aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig dysgu oddi wrthynt a’u herio’n adeiladol.

Ar gyfer elusennau sydd â llai o fuddsoddiadau o ran arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod, gall yr unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio buddsoddiadau adrodd yn fyr i’r bwrdd llawn ym mhob cyfarfod i ymddiriedolwyr. Gallai’r eitemau i’w trafod gynnwys y swm a ddelir, y gyfradd llog, unrhyw faterion sydd wedi codi.

Ar gyfer elusennau sydd â mwy o fuddsoddiadau a’r rheini sy’n dal buddsoddiadau mwy cymhleth, gallai unigolion sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio buddsoddiadau adrodd i’r bwrdd drwy’r canlynol:

  • diweddariad ysgrifenedig neu ar lafar ar gyfer pob cyfarfod bwrdd
  • adroddiad blynyddol mwy trylwyr ar sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio o gymharu â’r polisi buddsoddi, er enghraifft perfformiad ariannol a pherfformiad o’i gymharu a pharodrwydd yr elusen i dderbyn risg
outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth

Bydd cyfarfodydd â rheolwyr buddsoddiadau neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen yn adeiladol gydag amcanion clir ac agendâu y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - cyfarfodydd gyda darparwyr proffesiynol

Mae cyfarfodydd a gynhelir gyda rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen wedi’u cynllunio i sicrhau bod ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau dirprwyedig yn effeithiol.  Mae hyn yn cynnwys:

  • dosbarthu papurau ymlaen llaw er mwyn rhoi digon o amser i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor baratoi.
  • sicrhau bod unigolyn i gadeirio’r cyfarfod (gallai hyn fod yn gadeirydd pwyllgor, neu’n unigolyn a enwebwyd i gadeirio)
  • agenda glir y cytunwyd arni ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod gyda diben pendant a rhestr o bynciau i roi sylw iddynt
  • sicrhau bod unrhyw gyflwyniad yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau a datblygiadau’r elusen yn yr amgylchedd allanol sy’n berthnasol i fuddsoddiadau’r elusen
  • rhoi digon o amser i’r rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi adrodd ar fuddsoddiadau’r elusen. Gellid cyflawni hyn drwy roi cyflwyniadau llai aml ond hirach
  • mae trafodaethau’n canolbwyntio ar bynciau sy’n berthnasol i fuddsoddiadau’r elusen ac yn gwneud y defnydd gorau o’r amser sydd ar gael
  • osgoir jargon ac mae’r unigolyn sy’n cadeirio’r cyfarfod yn gweithredu i sicrhau bod pawb sy’n bresennol yn deall yr wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno a’r paramedrau ar gyfer unrhyw drafodaethau
  • mae unrhyw eitemau y mae angen gwaith dilynol arnynt yn cael sylw’n gyflym

Lawrlwytho’r Egwyddor hon